Yn gyntaf, diolch. Diolch i bawb sydd wedi dod i’n digwyddiadau eleni, wedi gwirfoddoli, neu wedi prynu tocyn raffl. Ysgol fach ydyn ni, ond mae ein cymuned yn fawr: teuluoedd, cyn-deuluoedd, ffrindiau a Chymry Llundain sy’n cadw’r Gymraeg yn fyw yng nghanol y ddinas.
Croeso i gylchlythyr cyntaf CRhAFf Ysgol Gymraeg Llundain! Eleni, mae busnesau o bob cwr o Gymru wedi rhoi gwobrau hael i’n raffl. Y ffordd orau o ddiolch iddyn nhw? Prynu ganddyn nhw y Nadolig hwn.
Yn y rhifyn hwn:
Bob tro rydych chi’n siopa, rydych chi’n cefnogi busnes bach yng Nghymru, ac yn cadw Llundain yn agos at adref.
Thank you to everyone who’s come to our events this year, volunteered, or bought a raffle ticket. We’re a small school with a big community: families, former families, friends and London Welsh people keeping Welsh alive in the middle of the city.
Welcome to the first ever newsletter from the Ysgol Gymraeg Llundain PTFA! This year, businesses from every corner of Wales gave generous prizes to our raffle. The best way to thank them? Buy from them this Christmas.
In this issue:
Every time you shop, you’re backing a small Welsh business and keeping the link between London and Wales alive.
Nadolig Llawen, CRhAFf Ysgol Gymraeg Llundain
Nadolig Llawen, YGLl PTFA
Mae Hiut yn gwneud jîns yn Aberteifi, a chroesawon nhw deuluoedd YGLl i'r ffatri yr haf hwn. Prynwch drwy ein dolen ni a bydd 6% o bob archeb yn mynd yn syth i'r ysgol. Jîns neu daleb rhodd: dim cost ychwanegol i chi, arian ym mhocedi YGLl.
Hiut makes jeans in Cardigan, and welcomed YGLl families to the factory this summer. Buy through our link and 6% of every order goes straight to the school. Jeans or a gift voucher: the same price for you, real money for YGLl.
Dyma dair ffordd i helpu’r Nadolig hwn, o rodd fach untro i’r siopa rydych chi’n ei wneud beth bynnag.
Here are three ways to help this Christmas, from a small one-off gift to the shopping you’re doing anyway.
Mae pob £5 ychwanegol y mis yn docyn arall.
Every extra £5 a month buys another ticket.
Nodyn atgoffa: Siopa ar-lein ar gyfer Black Friday neu’r Nadolig? Ewch drwy easyfundraising yn gyntaf a bydd y siopau’n rhoi rhodd i YGLl, heb gost ychwanegol i chi.
A quick reminder: shopping online for Black Friday or Christmas? Go through easyfundraising first and retailers will donate to YGLl, at no extra cost to you.
Ysgol Gymraeg Llundain yw'r unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y tu allan i Gymru yn y DU. Mae pob punt yn helpu i gadw'r drysau ar agor. Os gallwch chi, rhowch rodd fach i'r ysgol y Nadolig hwn.
Ysgol Gymraeg Llundain is the only Welsh-medium primary school outside Wales in the UK. Every pound helps keep the doors open. If you can, please give a small gift to the school this Christmas.
Diolch o galon, a Nadolig llawen o Lundain.
Diolch i bob busnes a roddodd wobr i'n raffl eleni. Roedd eich haelioni'n golygu popeth i'n plant a'n hysgol.
A huge thank-you to every business that gave a prize to our raffle this year. Your generosity meant the world to our children and our school.